CORFF
LLYWODRAETHOL
CHWARAEON NEWYDD
I GYMRU

Mae Campau Celtaidd Cymru yn fwy na Chorff Llywodraethol Chwaraeon. Rydym ni’n sefydliad diwylliannol cymunedol fydd yn trefnu, gweinyddu a llywodraethu’r campau traddodiadol Celtaidd Cymru.

MAE’N FATER O BERTHYN…

Nid yw hyn am berfformiad elitaidd. Cymhelliad Campau Celtaidd Cymru yw hybu cyfranogiad.

Cyfranogi i gymuned, diwylliant ac etifeddiaeth; tynnu pobol at eu gilydd ac ehangu eu profiadau cymunedol. Cysylltu pobol ar lawr gwlad. Normaleiddio’r iaith Gymraeg i bawb. Gwreiddio pobol yn eu cymunedau, rhanbarthau a chenedl a dathlu ein diwylliant ac etifeddiaeth gyffredin trwy gyfrwng chwaraeon. Rhoi cyfle i bawb brofi’r llawenydd o gynrychioli neu ddilyn y lle a’r gymuned y maent yn ei galw’n gartref.

TREFTADAETH

Cysylltu â’n gorffennol a’n treftadaeth genedlaethol; treftadaeth sy’n perthyn i bawb.

IAITH

Normaleiddio’r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru a darparu lle di-academaidd i bobol ddefnyddio, rhannu a rhyngweithio drwy’r iaith.

DIWYLLIANT

Ail-gysylltu, rhannu, hyrwyddo a normaleiddio ein treftadaeth ddiwylliannol.

CYMUNED

Cysylltu pobol â lle. Tirio pobol a chymunedau gydag ymdeimlad o gyd-berthyn.

CHWARAEON AMATUR

Mae chwaraeon amatur yn perthyn i – ac yn cysylltu gyda – chymuned ac yn bodoli er mwynhâd. I’r gwrthwyneb, mae chwaraeon propffesiynol yn perthyn i – ac yn cael eu gyrru gan – elitiaeth, adloniant, antur a busnes.

NEWYDDION