
MAE’N FATER O BERTHYN…
Perthyn i gymuned. Perthyn i filltir sgwâr. Perthyn i’r un diwylliant. Perthyn i’r un genedl.
Nid yw hyn am berfformiad elitaidd. Cymhelliad Campau Celtaidd Cymru yw hybu cyfranogiad.
Cyfranogi i gymuned, diwylliant ac etifeddiaeth; tynnu pobol at eu gilydd ac ehangu eu profiadau cymunedol. Cysylltu pobol ar lawr gwlad. Normaleiddio’r iaith Gymraeg i bawb. Gwreiddio pobol yn eu cymunedau, rhanbarthau a chenedl a dathlu ein diwylliant ac etifeddiaeth gyffredin trwy gyfrwng chwaraeon. Rhoi cyfle i bawb brofi’r llawenydd o gynrychioli neu ddilyn y lle a’r gymuned y maent yn ei galw’n gartref.

TREFTADAETH
Cysylltu â’n gorffennol a’n treftadaeth genedlaethol; treftadaeth sy’n perthyn i bawb.

IAITH
Normaleiddio’r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru a darparu lle di-academaidd i bobol ddefnyddio, rhannu a rhyngweithio drwy’r iaith.

DIWYLLIANT
Ail-gysylltu, rhannu, hyrwyddo a normaleiddio ein treftadaeth ddiwylliannol.

CYMUNED
Cysylltu pobol â lle. Tirio pobol a chymunedau gydag ymdeimlad o gyd-berthyn.

CHWARAEON AMATUR
Mae chwaraeon amatur yn perthyn i – ac yn cysylltu gyda – chymuned ac yn bodoli er mwynhâd. I’r gwrthwyneb, mae chwaraeon proffesiynol yn perthyn i – ac yn cael eu gyrru gan – elitiaeth, adloniant, antur a busnes.
NEWYDDION
-
CYNEFIN AR Y CAE: O GEMAU TRADDODIADOL CYMRU I OGLEDD AWSTRALIA
(Erthygl gan Gwenno Iolo Davies) Darllen rhagor
-
RHEOLAU BANDO
Mae fersiynau drafft o reolau Bando – ynghyd â rhestr o dermau Cymraeg perthnasol – ar gael i’w lawrlwytho o’r tudalen ‘Cefnogwyr’ yma. Os nad ydych chi wedi tanysgrifio i ddod yn gefnogwr eisoes gallwch wneud hynny yma.
-
YMGYNHORIAD Y LLYWODRAETH
Mae Gweinidog y Llywodraeth dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, wedi pwysleisio ei hymrwymiad i gefnogi’r ddau faes fel elfennau hanfodol o gymdeithas Cymru, ac wedi gwahodd sylwadau fel rhan o broses ymgynghori ar strategaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygu’r meysydd hyn. Bydd CCC yn cyflwyno ymateb ac mae croeso i unigolion gyfrannu hefyd; felly,…